Isod fe welwch restr o 36 o dermau a ddefnyddir o fewn presgripsiynu cymdeithasol. Gallwch glicio ar derm neu ddewis eicon ar y map meddwl ac fe fydd yn eich mynd â chi i'r disgrifiad ar gyfer y term hwnnw. Gallwch hefyd ddefnyddio’r siart lif i weld ble o fewn y llwybr presgripsiynu cymdeithasol y mae'r termau.
Mae'r rhestr termau yn defnyddio'r holl dermau a disgrifiadau o’r "Rhestr termau presgripsiynu cymdeithasol" ac yn tynnu sylw at ddewisiadau termau ar gyfer sectorau penodol. Rydym hefyd wedi gwneud fersiwn hawdd ei ddeall.
O fewn y disgrifiad o derm a/neu’r is-adran ‘Termau Amgen’, lle y nodwyd termau amgen fel termau a ffefrir ar gyfer sectorau penodol, nodir hyn drwy’r defnydd o dalfyriad mewn uwchysgrif. Dangosir y termau mewn print du trwm gyda dangosydd mewn uwchysgrif ar gyfer y sector (gofal iechyd = GI, gofal cymdeithasol = GC, gwasanaethau a sefydliadau gwirfoddol cymunedol = GSGC). Er enghraifft, Gweithiwr cyswllt GI.
Sut i ddefnyddio’r Rhestr Termau splossaryTM.
Termau presgripsiynu cymdeithasol
- Asedau Cymunedol
 - Atgyfeirio
 - Atgyfeirio at Addysg
 - Atgyfeirio at Gymorth Lles
 - Atgyfeirio at Lyfrau
 - Atgyfeirio at Ymarfer Corff
 - Atgyfeirio Creadigol
 - Atgyfeirio Glas
 - Atgyfeirio Gwyrdd
 - Caffis Cymdeithasol
 - Cydgynhyrchu
 - Cyfannol
 - Cyfeirio a Chyfeirio Gweithredol
 - Cynllun dan Reolaeth Practis
 - Cynllunio Camau Gweithredu
 - Datblygu’r Practis
 - Dulliau Presgripsiynu Cymdeithasol
 - Dull sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
 - Dull sy’n Seiliedig ar Asedau
 - Egwyddorion Canlyniad Presgripsiynu Cymdeithasol
 - Gwasanaethau Statudol
 - Hwylusydd Iechyd
 - Hybiau Cymorth Cymunedol
 - Hyrwyddwr Presgripsiynu Cymdeithasol
 - Llesiant
 - Llwybr Presgripsiynu Cymdeithasol
 - Llywiwr Gofal
 - Mapio Asedau
 - Modelau Presgripsiynu Cymdeithasol
 - Presgripsiynnu Cymdeithasol
 - Presgripsiynu Cymdeithasol Digidol
 - Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol
 - Sgwrs am Yr Hyn sy’n Bwysig
 - System Gyfeillio
 - Ymarferydd Presgripsiynu Cymdeithasol
 - Ymyriadau’n Seiliedig ar Natur