Disgrifiad: Mae Cydgynhyrchu yn cyfeirio at berthynas rhwng darparwyr gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd a’u cymunedau. Mae’r term yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau gwasanaeth gan gynnwys cyd-lunio, cyd-gyflenwi yn ogystal â chyd-asesu gwasanaethau.
Yng nghyd-destun y llwybr presgripsiynu cymdeithasol, mae unigolyn sy’n cael ei atgyfeirio at ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn cydgynhyrchu cynllun gweithredu yn dilyn sgwrs am yr hyn sy’n bwysig. Yn y cyd-destun hwn, defnyddir y term cyd-lunio yn achlysurol i olygu cydgynhyrchu. Fodd bynnag, mae cyd-lunio yn cyfeirio’n benodol at berthynas rhwng darparwyr gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd a’u cymunedau yng nghyd-destun llunio gwasanaethau.
Termau Amgen: –
Termau Cysylltiedig: atgyfeirio, cynllunio camau gweithredu, dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, dull sy’n seiliedig ar asedau, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, modelau presgripsiynu cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol, sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol
Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff derm defnydd
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.