splossary

Wedi drysu gan bresgripsiynu cymdeithasol? Gallwn ni helpu!


Mae presgripsiynu cymdeithasol yn helpu i gysylltu pobl â chymorth cymunedol i reoli eu hiechyd a'u llesiant yn well.

Yn anffodus, mae llawer o iaith ddryslyd yn ymwneud â phresgripsiynu cymdeithasol ar hyn o bryd. Weithiau defnyddir labeli cymhleth ar gyfer pethau syml ac weithiau cyfeirir at bresgripsiynu cymdeithasol fel term gwahanol, er enghraifft cysylltiad cymunedol, atgyfeiriad cymunedol neu atgyfeiriad wedi’i gefnogi.

splossaryTM yn rhestr o dermau a disgrifiadau presgripsiynu cymdeithasol – i helpu pobl i ddeall yr iaith a ddefnyddir o fewn presgripsiynu cymdeithasol.

Mae’r fideo isod yn esbonio presgripsiynu cymdeithasol a sut i ddefnyddio’r Rhestr Termau splossaryTM.