Fe wnaethom nodi cannoedd o dermau yn ein hymchwil. Isod mae'r meini prawf a ddefnyddiwyd gennym i gategoreiddio'r cannoedd o dermau a nodwyd gennym yn ein hymchwil naill ai fel termau presgripsiynu cymdeithasol craidd neu dermau presgripsiynu cymdeithasol di-graidd.
Roedd datblygu'r rhestr termau yn canolbwyntio ar y termau craidd yn unig. Mae’r dudalen Pob term A-Y yn cynnwys rhestr o bob term craidd a nodwyd gennym yn ein hymchwil.
Termau Craidd
Diffiniad: Term a ddefnyddir mewn iaith bob dydd yn y maes presgripsiynu cymdeithasol gan ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol a phobl sy’n ymgysylltu â phresgripsiynu cymdeithasol, sy'n ymwneud yn benodol â a/neu sy’n disgrifio rhan hanfodol o’r broses presgripsiynu cymdeithasol.
Meini Prawf ar gyfer Cynnwys Term: Term sy’n ymwneud yn benodol â rhan hanfodol o’r broses presgripsiynu cymdeithasol a/neu sy’n disgrifio hynny. Defnyddir y term mewn deunydd cyfathrebu i wella iechyd a llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol unigolion drwy gydol y broses presgripsiynu cymdeithasol a/neu wrth wella penderfynyddion iechyd ehangach i unigolion drwy gydol y broses presgripsiynu cymdeithasol.
Meini Prawf ar gyfer Hepgor Term: Term a ddefnyddir yn gyffredin mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol/ statudol/ anstatudol OND nad yw’n ymwneud yn benodol â rhan ganolog a/neu ran hanfodol o’r broses presgripsiynu cymdeithasol a/neu nad yw’n disgrifio hynny.
Termau Anghraidd
Diffiniad: Term a ddefnyddir ar draws y meysydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol/ statudol/ anstatudol, sy’n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol ond nad yw’n ymwneud â rhan hanfodol o’r broses presgripsiynu cymdeithasol a/neu nad yw’n disgrifio hynny.
Meini Prawf ar gyfer Cynnwys Term: Term nad yw’n derm presgripsiynu cymdeithasol craidd ond a ddefnyddir mewn deunydd cyfathrebu i wella iechyd a llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol unigolyn drwy gydol y broses presgripsiynu cymdeithasol a/neu wrth wella penderfynyddion iechyd ehangach i unigolion drwy gydol y broses presgripsiynu cymdeithasol.
Meini Prawf ar gyfer Hepgor Term: Mae’r gair yn derm a ddefnyddir yn gyffredin mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol/ statudol/ anstatudol ond nid yw’n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol yn benodol.