Dull sy’n Seiliedig ar Asedau

Disgrifiad: Mae dull sy’n seiliedig ar asedau yn cynnwys defnyddio sgiliau a gwybodaeth unigolion a’r cysylltiadau a’r adnoddau sydd ar gael mewn cymunedau a sefydliadau, yn hytrach na chanolbwyntio ar broblemau a diffygion. Mae’r dull yn meithrin gobaith drwy symud y ffocws oddi wrth “beth sy’n bod arnom” i “beth sy’n iawn gyda ni”. Mae’n tybio, er y gallai problemau fodoli, a’r rheini’n rhai difrifol weithiau, bod adnoddau a galluoedd heb eu defnyddio sy’n gynhenid i bob unigolyn, sefydliad neu gymuned y gellir eu defnyddio er mwyn gwella’r amodau presennol.

Mae mentrau presgripsiynu cymdeithasol yn darparu dull sy’n seiliedig ar asedau ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau hyn drwy helpu pobl a chymunedau i ddod at ei gilydd er mwyn creu newid cadarnhaol, gan ddefnyddio eu sgiliau, eu gwybodaeth, eu profiadau bywyd a’u diddordebau ar faterion y maent yn eu profi yn eu bywydau bob dydd. Mae’r dull yn ceisio grymuso unigolion a, lle y bo’n briodol, eu galluogi i fod yn llai dibynnol ar wasanaethau cyhoeddus.

Weithiau caiff y term dull gweithredu sy’n seiliedig ar gryfderau ei ddefnyddio i olygu neu ar y cyd â dull sy’n seiliedig ar asedau. Er bod y ddau derm yn debyg iawn, mae dull sy’n seiliedig ar gryfderau yn disgrifio dull cydgynhyrchiol sy’n rhoi pwysau ar hunanbenderfyniad drwy ddefnyddio cryfderau ac asedau’r unigolion. Drwy ganolbwyntio ar eu cryfderau, gall yr unigolyn fynd i’r afael â’i anghenion mewn ffordd sy’n ei alluogi i arwain a rheoli ei lesiant.

Termau Amgen: Dull gweithredu sy’n seiliedig ar gryfderau, dull gweithredu sy’n seiliedig ar gryfderau ac asedau

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, cydgynhyrchu, cyfannol, dulliau presgripsiynu cymdeithasol, dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mapio asedau, presgripsiynu cymdeithasol, sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, system gyfeillio

filed under: