System Gyfeillio

Disgrifiad: Gall system gyfeillio gyfeirio at

  • Gymorth wyneb yn wyneb gan ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol rhwng yr amser y caiff unigolyn ei atgyfeirio a’r sesiwn gyntaf gyda grŵp, ymyriad neu wasanaeth, y credir ei fod yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd yr unigolyn yn mynychu apwyntiad.
  • Cyswllt rhwng un aelod o’r gymuned ac aelod arall o’r gymuned i gynnig cymorth i fanteision ar grŵp, ymyriad neu wasanaeth drwy bresgripsiynu cymdeithasol. Gallai’r aelod o’r gymuned sy’n cynnig ei gymorth fod yn wirfoddolwr atgyfeirio cymdeithasol, neu mae’n bosibl y bydd ganddo rôl â thâl. Mae gan yr aelod hwn o’r gymuned brofiad bywyd o anawsterau penodol, e.e. anawsterau iechyd meddwl neu boen cronig, ac fel arfer bydd wedi cael manteisio ar y grwp, ymyriad neu wasanaeth yn uniongyrchol drwy wasanaeth presgripsiynu cymdeithasol ac yna’n cynnig cynorthwyo unigolion wedi hynny i fanteisio ar ased cymunedol penodol.

Termau Amgen: Mentoriaid cyfoedion, llyw-wyr cyfoedion, cymorthwyr cyfoedion

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio, dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, modelau presgripsiynu cymdeithasol, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol

filed under: