Disgrifiad: Mae modelau presgripsiynu cymdeithasol yn disgrifio’r gwahanol fathau o gymorth arhyngweithio y mae presgripsiynu cymdeithasol yn ei gynnig i unigolyn. Disgrifir y rhain yn aml fel:
Cyfeirio: Yn syml mae’r unigolyn yn cael ei gyfeirio at asedau cymunedol priodol a/neu a allai fod yn ddefnyddiol.
Ysgafn: Mae’r ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn defnyddio cyfeirio gweithredol ac yn atgyfeirio pobl at raglen/ymyrraeth benodol er mwyn mynd i’r afael ag angen penodol a/neu fodloni neu weithio tuag at amcanion sydd wedi’u diffinio’n glir o fewn amserlen benodol.
Canolig: Ymyrraeth fer lle y bydd yr ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn helpu’r unigolyn i nodi ei anghenion ac yn darparu cymorth cyfeirio gweithredol a chefnogaeth ar draws ystod o feysydd a allai gynnwys rheoli iechyd corfforol a llesiant seicolegol o fewn amserlen benodol.
Cyfannol: Y math mwyaf cyffredin o bresgripsiynu cymdeithasol ac un sy’n ceisio cynorthwyo’r unigolyn mewn ffordd gyfannol dros gyfnod hwy o amser, gyda chymorth ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol. Mae’r ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol, gan ddefnyddio sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, yn helpu’r unigolyn i nodi ei anghenion a dod o hyd i wasanaethau addas a chael mynediad atynt. Mae’r ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn darparu ystod eang o ymyriadau ac yn cysylltu’r unigolion â gwasanaethau a rhwydweithiau lleol. Nid oes uchafswm o ran y nifer o amseroedd y gwelir yr unigolyn; bydd hyn yn cael ei benderfynu gan asesiad holistaidd o anghenion yr unigolyn. Ystyrir bod hyn wedi esblygu o gyfeirio pobl at atgyfeiriadau cymdeithasol, ysgafn a chanolig. Mae gwahaniaethau sylweddol yn y nifer a’r math o staff sy’n cael eu recriwtio, ffocws eu gweithgarwch, a’r dull o atgyfeirio at yr ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol.
Gwasanaeth atgyfeirio cymunedol: mae hyn yn disgrifio gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol i bobl neu gymuned ag anghenion penodol e.e. pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Gellir ei ystyried fel math o atgyfeiriad wedi’i dargedu.
Atgyfeiriad cymdeithasol cymunedol ehangach: model presgripsiynu cymdeithasol sy’n cyfuno ymgysylltiad cymunedol, newid sefydliadol ac arfer ar lefel unigol, gyda’r nod o wella llesiant y gymuned a’r unigolyn. Mae’n darparu ffordd o feddwl ynghylch gwerth cyfatebol llesiant unigolion a chymunedau yng nghyd-destun gofal iechyd sylfaenol a chymunedau lleol.
Termau Amgen: Modelau sy’n seiliedig ar weithiwr cyswllt, rhaglen gweithiwr cyswllt, cynnig atgyfeirio cymdeithasol
Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio, cydgynhyrchu, cyfannol, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, cynllunio camau gweithredu, dulliau presgripsiynu cymdeithasol, dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, dull sy’n seiliedig ar asedau, gwasanaethau statudol, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, mapio asedau, presgripsiynu cymdeithasol, sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol
Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff derm defnydd
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.