Cyfeirio a Chyfeirio Gweithredol

Disgrifiad: Cyfeirio gweithredol yw’r math o gyfeirio a ddefnyddir amlaf gan y rhai mewn rôl ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol. Mae cyfeirio yn fath ysgafn iawn o bresgripsiynu cymdeithasol sy’n golygu cyfeirio’r unigolyn at asedau cymunedol a allai fod yn ddefnyddiol. Fel cymhariaeth, mae cyfeirio gweithredol, sy’n rhan o fodelau presgripsiynu cymdeithasol ysgafn, canolig a chyfannol, yn gofyn bod gan yr ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol wybodaeth fanylach am yr unigolyn a’r asedau cymunedol sydd ar gael fel bod y cyfeirio yn ystyrlon ac yn berthnasol i’r unigolyn. Mae’r math hwn o bresgripsiynu cymdeithasol yn gweithio orau i’r bobl sy’n ddigon hyderus ac yn meddu ar ddigon o sgiliau i ddefnyddio asedau cymunedol yn annibynnol ar ôl ymyriad byr.

Mae cyfeirio a chyfeirio gweithredol hefyd yn cael eu gwneud gan ystod eang o bobl mewn rolau nad ydynt yn ymwneud â phresgripsiynu cymdeithasol, megis Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHPs) ac aelodau presennol o staff mewn practis (derbynyddion yn gyffredinol) sy’n darparu gwybodaeth a dewis drwy gyfeirio pobl at wasanaethau, gan ddefnyddio gwybodaeth leol a chyfeiriaduron adnoddau.

Termau Amgen:

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, atgyfeirio, dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gwasanaethau statudol, hwylusydd iechyd, hybiau cymorth cymunedol, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, llywiwr gofal, mapio asedau, modelau presgripsiynu cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol, sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol

filed under: