Hwylusydd Iechyd

Disgrifiad: Gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n cyflawni rôl debyg i ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yw hwylusydd iechyd. Mae’r hwylusydd iechyd fel arfer yn gweithio ym mhractisau meddygon teulu ac mae’n gweld cleifion sydd wedi’u hatgyfeirio er mwyn helpu i nodi eu hanghenion a’u llywio drwy’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd yn eu cyfeirio at asedau cymunedol neu’n hybu grwpiau neu gyrsiau hunangymorth ar gyfer materion penodol. Yn wahanol i ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol, llywiwr gofal neu hyfforddwr iechyd, mae’r hwylusydd iechyd hefyd yn darparu cyngor ar ymarfer corff, maeth, deiet, rheoli pwysau, rheoli poen cronig a byw gydag iselder a gorbryder.

Mae hyfforddwyr iechyd yn cyflawni rôl debyg i hwyluswyr iechyd, sy’n gweithio gyda phractisau meddygon teulu i gysylltu cleifion ag ymyriadau penodol sy’n seiliedig ar iechyd yn y gymuned a chynorthwyo gyda’u cynnydd o ran eu hiechyd. Nid oes rhaid i hyfforddwyr iechyd fod yn weithwyr iechyd proffesiynol ac nid ydynt yn rhoi cyngor penodol ar feysydd iechyd. Gallent hwyluso newid ymddygiad iach a chynaliadwy drwy herio a chefnogi cleient i nodi ei werthoedd, datblygu ei nodau a thrawsnewid y nodau hynny’n gamau gweithredu.

Gallai hwyluswyr iechyd a hyfforddwyr iechyd atgyfeirio’r unigolyn at ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn y gymuned fydd yn gallu ei gysylltu’n well ag asedau cymunedol.

Termau Amgen: Cynghorydd iechyd, brocer iechyd, hyfforddwr iechyd, cysylltwr iechyd, mentor iechyd, hyfforddwr iechyd a llesiant, hyfforddwr llesiant

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio, atgyfeirio at ymarfer corff, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, cynlluniau dan reolaeth practis, datblygu’r practis, gwasanaethau statudol, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol, ymyriadau’n seiliedig ar natur

filed under: