Atgyfeirio at Ymarfer Corff

Disgrifiad: Mae atgyfeirio at ymarfer corff yn dermau a ddefnyddir i ddisgrifio’r broses o atgyfeirio at weithgaredd corfforol sydd wedi’i deilwra ac sy’n cael ei oruchwylio. Mae cynlluniau atgyfeirio at ymarfer corff yn ymyrraeth amlasiantaeth sy’n cynnwys ymddiriedolaethau gofal sylfaenol lleol, cynghorau lleol a darparwyr gwasanaethau hamdden gwirfoddol a phreifat yn aml. Mae cleifion nad ydynt yn gwneud ymarfer corff sydd â phroblemau iechyd presennol neu ffactorau risg ar gyfer salwch yn y dyfodol yn cael eu hatgyfeirio gan ymarferwyr cyffredinol a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill i raglen o ymarfer corff cymorthdaledig mewn campfa leol. Mae’r Cynllun atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff (NERS) yn wasanaeth cenedlaethol a gynhelir gan Gymdeithasau Llywodraeth Leol Cymru sy’n cael ei redeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae arweinydd ymarfer corff neu ymarferydd atgyfeirio at ymarfer corff yn rhywun a gyflogir gan wasanaethau hamdden sy’n gweithio gydag unigolion ac sy’n derbyn atgyfeiriadau at ymarfer corff drwy wasanaethau presgripsiynu cymdeithasol meddygfeydd.

Termau Amgen: Ymarfer corff ar bresgripsiwnGI, cynlluniau ymarfer corff ar bresgripsiwn, cynlluniau atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, cynlluniau hunangyfeirio cleifion ar gyfer sesiynau ymarfer corff wedi’u goruchwylio, ymyrraeth gweithgarwch corfforol, cynlluniau atgyfeirio at weithgarwch corfforolGC

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio, atgyfeirio at addysg, atgyfeirio at gymorth lles, atgyfeirio at lyfrau, atgyfeirio creadigol, atgyfeirio glas, atgyfeirio gwyrdd, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, cynlluniau dan reolaeth practis, hwylusydd iechyd, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol, ymyriadau’n seiliedig ar natur

filed under: