Atgyfeirio at Lyfrau

Disgrifiad: Mae atgyfeirio at lyfrau yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio atgyfeirio unigolion at lyfrau hunangymorth penodol i’w galluogi i reoli a deall materion seicolegol yn well. Mae’r llyfrau hunangymorth yn cynnwys casgliad craidd o 30 o lyfrau sy’n defnyddio egwyddorion therapi gwybyddol ymddygiadol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl cyffredin a chawsant eu hysgrifennu gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae ymarferwyr cyffredinol neu ymarferwyr iechyd meddwl yn atgyfeirio unigolyn i fenthyca llyfr “ar bresgripsiwn” o lyfrgell gyhoeddus leol. Mae modd cael gafael ar y llyfrau hyn drwy hunanatgyfeirio hefyd.

Termau Amgen: BibliotherapiAC, llyfrau ar bresgripsiwnGI, darllen ar bresgripsiwn

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio, atgyfeirio at addysg, atgyfeirio at gymorth lles, atgyfeirio at ymarfer corff, atgyfeirio creadigol, atgyfeirio glas, atgyfeirio gwyrdd, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol, ymyriadau’n seiliedig ar natur

filed under: