Llesiant

Disgrifiad: “Mae llesiant yn gyflwr cadarnhaol a brofir gan unigolion a chymdeithasau. Yn yr un modd ag iechyd, mae’n adnodd ar gyfer bywyd bob dydd ac mae’n cael ei benderfynu gan amodau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol”. Yng Nghymru, mae person â llesiant yn cael ei ddiffinio fel “hapus, iach ac sy’n gyfforddus gyda’i fywyd a’r hyn y mae’n ei wneud”. Mae’n ymdeimlad o iechyd a bywiogrwydd sy’n deillio o’ch meddyliau, emosiynau, gweithredoedd, a’ch profiadau. Mae gwasanaethau llesiant a phrosiectau llesiant yn ceisio hwyluso a meithrin ymdeimlad o lesiant drwy gysylltiad cymdeithasol a mathau gwahanol o weithgarwch ac ymyriadau.

Termau Amgen:

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio, cydgynhyrchu, cyfannol, dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, dull sy’n seiliedig ar asedau, egwyddorion canlyniad persgripsiynu cymdeithasol, gwasanaethau statudol, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, modelau presgripsiynu cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol, sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, system gyfeillio, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol

filed under: