EgwyddorionCanlyniad Presgripsiynu Cymdeithasol

Disgrifiad: Mae egwyddorion canlyniad presgripsiynu cymdeithasol yn disgrifio’r lefel a’r math o ganlyniadau sy’n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol.

Unigolyn: Mae’r unigolyn yn cael ei rymuso i wella ei iechyd a’i lesiant drwy gysylltiadau gwell â’i gymuned a/neu ei deulu. Canlyniadau ansawdd bywyd a llesiant gwell i unigolion, gyda chymunedau hapusach, mwy cysylltiedig a gwydn, a darparu dewis o ran y ddarpariaeth ar bresgripsiwn. Gallai llesiant wella hefyd drwy fwy o gefnogaeth deuluol i ymgysylltu â phresgripsiynu cymdeithasol.

Cymuned: Ymwybyddiaeth well o asedau cymunedol er mwyn galluogi pobl i ymgysylltu a chefnogi cydweithrediad ar draws sefydliadau/sectorau. Meini prawf clir ar gyfer swydd a set sgiliau ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol o’r dechrau.

Systemau/strategol: Lleihau cyfeirio amhriodol at wasanaethau drwy wella gwybodaeth a llwybrau i asedau cymunedol addas (cyfuno adnoddau). Newid systemig, gan gynnwys arweinyddiaeth ar lefel system ar gyfer gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol rheng flaen. Mae elw ar fuddsoddiad yn ffurfio rhan o gyllido cynaliadwy. Prosesau strwythuredig ar gyfer gwerthuso.

Canlyniadau tymor hir: 1) Gwelliant i lesiant meddyliol y boblogaeth a gostyngiad yng nghyffredinrwydd o salwch meddwl ac anghydraddoldebau cysylltliedig; 2) Gwelliant i lesiant corfforol y boblogaeth a gostyngiad yng nghyffredinrwydd salwch corfforol ac anghydraddoldebau cysylltiedig; 3) Gwelliant i lesiant cymdeithasol y boblogaeth a gostyngiad yng nghyffredinrwydd llesiant gwael, unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ac anghydraddoldebau cysylltiedig; 4) Effaith y system ar benderfynyddion ehangach iechyd; Gwelliant i llesiant cymunedol.

Termau Amgen:

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio, cydgynhyrchu, cynllunio camau gweithredu, dulliau presgripsiynu cymdeithasol, dull sy’n seiliedig ar asedau, gwasanaethau statudol, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, modelau presgripsiynu cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol

filed under: