Disgrifiad: Mae asedau cymunedol yn derm cyfunol ar gyfer unrhyw beth y gellir ei ddefnyddio i wella ansawdd bywyd cymuned. Gall hyn gynnwys grwpiau cymunedol, ymyriadau a gwasanaethau y gellid eu darparu ar-lein neu wyneb-yn-wyneb, yn ogystal ag adeiladau, tir neu hyd yn oed berson mewn cymuned.
Er enghraifft, gweithgaredd yw ioga ac nid ased cymunedol, ond gellid ystyried bod grŵp ioga a’r neuadd bentref ble y caiff ei gynnal yn asedau cymunedol. Nid yw nofio’n cael ei ystyried yn ased cymunedol ond gellid ystyried bod grŵp cymunedol a’r lleoliad nofio yn asedau cymunedol.
Mae asedau diwylliannol, neu asedau treftadaeth, yn asedau cymunedol sydd â gwerth oherwydd eu gwerth hanesyddol, artistig, gwyddonol ac amgylcheddol. Mae’r asedau yn cynnal eu gwerth oherwydd eu cyfraniad at wybodaeth a diwylliant yn y gymuned.
Termau Amgen: Cyfalaf cymdeithasol
Termau Cysylltiedig: Atgyfeirio, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio at addysg, atgyfeirio at gymorth lles, atgyfeirio at lyfrau, atgyfeirio at ymarfer corff, atgyfeirio creadigol, atgyfeirio glas, atgyfeirio gwyrdd, caffis cymdeithasol, cydgynhyrchu, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, cynllunio camau gweithredu, dulliau presgripsiynu cymdeithasol, dull sy’n seiliedig ar asedau, hybiau cymorth cymunedol, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, mapio asedau, presgripsiynu cymdeithasol, ymyriadau’n seiliedig ar natur
Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff derm defnydd
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.