Disgrifiad: Mae mapio asedau yn elfen hanfodol o bresgripsiynu cymdeithasol, ac mae’n disgrifio’r dull o fapio gwasanaethau/asedau mewn cymuned er mwyn darparu rhestr a darlun o adnoddau cymuned.
Mae mapio asedau yn helpu i sicrhau bod yr ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn gallu atgyfeirio’r unigolyn yn briodol, yn seiliedig ar ei wybodaeth o’r asedau cymunedol sydd ar gael. Mae hefyd yn hwyluso’r asesiad o sut i ehangu’r asedau cymunedol hyn er mwyn mynd i’r afael ag anghenion y gymuned a chefnogi datblygiad cymunedol.
Termau Amgen: –
Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio, cydgynhyrchu, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, cynllunio camau gweithredu, dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, dull sy’n seiliedig ar asedau, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol, sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol
Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff derm defnydd
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.