Disgrifiad: Mae Cynllunio Camau Gweithredu, yng nghyd-destun presgripsiynu cymdeithasol, yn weithred a gyflawnir ar y cyd rhwng yr ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol a’r unigolyn. Mae ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol yn helpu pobl i nodi eu hanghenion cymdeithasol, meddyliol, corfforol ac economaidd. Maent yn cynorthwyo’r unigolyn i gydgynhyrchu cynllun gweithredu pwrpasol er mwyn bod o fudd i’w hiechyd a’u llesiant.
Mae’r cynllun gweithredu yn ddogfen sy’n disgrifio cwrs gweithredu sydd wedi’i greu a’i gytuno arno gan y ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol a’r unigolyn.
Termau Amgen: Cynlluniau Llesiant
Termau Cysylltiedig: Cydgynhyrchu, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, dull sy’n seiliedig ar asedau, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, mapio asedau, modelau presgripsiynu cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol, sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol
Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff derm defnydd
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.