Disgrifiad: Mae’r llwybr presgripsiynu cymdeithasol yn disgrifio’r llwybr atgyfeirio a’r llwybr cyswllt a ddilynir i gysylltu unigolyn ag ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol neu rywun sy’n ymwneud â phresgripsiynu cymdeithasol fel rhan o’i rôl, ac o’r fan honno â’r asedau cymunedol priodol, fel grwpiau, ymyriadau neu wasanaethau. Gall y broses hon fod yn ailadroddus a gall gynnwys ail-ymgysylltu â’r ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn dibynnu ar y model presgripsiynu cymdeithasol a lefel y cymorth a gynigir gan yr ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol.
Termau Amgen: Cyswllt, llwybr cysylltu, llwybr atgyfeirio
Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio, cydgynhyrchu, cyfannol, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, cynllun dan reolaeth practis, dulliau presgripsiynu cymdeithasol, dull sy’n seiliedig ar asedau, gwasanaethau statudol, llesiant, mapio asedau, modelau presgripsiynu cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol, sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol
Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff derm defnydd
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.