Disgrifiad: Mae’r term cyfannol yn ymwneud â rhywbeth sydd yn ei gyfanrwydd neu’r system gyfan yn hytrach na dim ond rhannau ohoni. Mae presgripsiynu cymdeithasol yn atgyfnerthu agwedd at iechyd sy’n ystyried ffactorau meddyliol a chymdeithasol, yn hytrach na dim ond symptomau salwch.
Mae yna wahanol fodelau presgripsiynu cymdeithasol, ond mae’r un mwyaf cyffredin yng Nghymru yn un cyfannol sydd, gyda chymorth ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn helpu’r cleient i ddod o hyd i wasanaethau addas a chael mynediad atynt, ac sy’n ceisio defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn cyfan dros gyfnod hwy.
Termau Amgen: Holistaidd
Termau Cysylltiedig: Cyfeirio a chyfeirio gweithredol, dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, dull sy’n seiliedig ar asedau, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, modelau presgripsiynu cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol, sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol
Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff derm defnydd
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.