Disgrifiad: Term ambarél sy’n disgrifio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gysylltu pobl â chymorth anghlinigol yn y gymuned yw presgripsiynu cymdeithasolGI. Gall helpu i rymuso unigolion i adnabod eu hanghenion, eu cryfderau a’u hasedau personol eu hunain ac i gysylltu â’u cymunedau eu hunain i gael cymorth gyda’u hiechyd a’u llesiant personol. Gall presgripsiynu cymdeithasol ddarparu continwwm o gymorth, chwarae rôl ataliol, neu ffurfio rhan o fodel cymorth ‘camu i lawr’.
Er gwaetha’r ffaith ei fod yn defnyddio’r term ‘presgripsiynu’, mae’r model presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru yn symud i ffwrdd o ddull meddygol, gan gynnig presgripsiynu cymdeithasol yn lle hynny, mabwysiadu agwedd ‘dim drws anghywir’ lle mae’r ffynonellau atgyfeirio yn rhai traws-sectoraidd ac nad ydynt wedi’u cyfyngu i ofal iechyd / gofal sylfaenol. Un o egwyddorion craidd presgripsiynu cymdeithasol yw ei fod yn galw am ryngweithio cydweithredol rhwng sefydliadau lluosog a hynny ar draws gwahanol sectorau.
Yng Nghymru, ceir gwahanol fodelau presgripsiynu cymdeithasol ond mae’r rhan fwyaf o ymyriadau presgripsiynu cymdeithasol yn defnyddio model sy’n seiliedig ar ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol. Bydd ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol, neu rywun sy’n ymgymryd â phresgripsiynu cymdeithasol fel rhan o’i rôl, yn helpu pobl i nodi eu hanghenion cymdeithasol, meddyliol, corfforol ac economaidd drwy sgwrs am yr hyn sy’n bwysig. Yna bydd yn cefnogi’r unigolyn i gyd-gynhyrchu cynllun gweithredu penodol a manteisio ar asedau cymunedol a allai fod o fudd i’w hiechyd a’u llesiant. Yna gellid cefnogi’r unigolyn i fynychu’r gweithgaredd atgyfeirio cymdeithasol. Mae llu o dermau sy’n dod o dan yr ambarél persgripsiynu cymdeithasol ac mae llawer ohonynt yn cael ei defnyddio yn lle y term hwn.
Y term unigolyn yw’r term a ffefrir i ddisgrifio buddiolwr presgripsiynu cymdeithasol h.y., yr unigolyn sy’n ymgysylltu â’r broses presgripsiynu cymdeithasol. Termau cyffredin eraill a ddefnyddir yw defnyddiwr gwasanaeth, claf, cleient a dinesydd.
Termau Amgen: atgyfeiriad cymunedol, cymorth cymunedol, cynllun cysylltu cymunedol, cysylltiad / cysylltiad cymunedolCVSO, llywio cymunedolCVSO, cymunedau tosturiol, cynllun cysylltydd, gwasanaeth cysylltydd cynlluniau cysylltu, gwasanaeth cysylltu, cynlluniau gweithiwr cyswllt, ymyriad anghlinigol, atgyfeirio anghlinigol, cymorth anghlinigol, ymyrraeth anfeddygol, atgyfeiriad anfeddygol, atgyfeirio anfeddygol, cymorth anfeddygol, cymorth anfeddygol yn y gymuned, ymyriad nad yw’n fferyllol, gweithgarwch cymdeithasol wedi’i atgyfeirio, cynllun atgyfeirio cymdeithasol, gwasanaeth atgyfeirio cymdeithasol, system atgyfeirio cymdeithasol, atgyfeiriad wedi’i gefnogi, rhaglenni atgyfeiriad cymdeithasol.
Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio, cydgynhyrchu, cyfannol, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, cynllunio camau gweithredu, dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, dull sy’n seiliedig ar asedau, gwasanaethau statudol, hybiau cymorth cymunedol, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, mapio asedau, modelau presgripsiynu cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol digidol, sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol
Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff derm defnydd
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.