Disgrifiad: Mae atgyfeirio yn disgrifio’r weithred o anfon rhywun at unigolyn arall neu i le arall i gael triniaeth, help, cyngor, ac ati. Yng nghyd-destun presgripsiynu cymdeithasol, gellir gwneud atgyfeiriad at ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol ac o ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol neu rywun sy’n ymgymryd â phresgripsiynu cymdeithasol fel rhan o’u rôl at asedau cymunedol priodol. Gall atgyfeirio at ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol gael ei wneud gan weithiwr proffesiynol mewn lleoliad clinigol (e.e. meddyg teulu, fferyllydd neu ffisiotherapydd), gwasanaeth statudol, neu Sefydliad y Sector Cymunedol a Gwirfoddol.
Gall unigolyn hefyd gael mynediad uniongyrchol i wasanaeth presgripsiynu cymdeithasol drwy hunanatgyfeirio. Mae hunanatgyfeirio yn disgrifio’r broses ble mae unigolyn yn cysylltu â rhywun sy’n gweithio fel ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol neu rywun sy’n ymgymryd â phresgripsiynu cymdeithasol fel rhan o’i rôl, heb fod wedi cael ei atgyfeirio at y person hwnnw. Nid yw hunanatgyfeirio yn disgsrifio rhywun sy’n cael mynediad uniongyrchol i asedau cymunedol (er enghraifft, mynd i ddosbarth celf).
Gellir hefyd ddefnyddio’r term atgyfeirio cymdeithasol i ddisgrifio’r weithred o atgyfeirio yn y maes presgripsiynu cymdeithasol, Er enghraifft, gallai unigolyn gael atgyfeiriad cymdeithasol gan ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer cweithgareddau atgyfeirio creadigol.
Atgyfeirio wedi’i dargedu yw pan fydd gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol yn cynnig cymorth presgripsiynu cymdeithasol cynnar i gynorthwyo unigolion neu boblogaethau sydd ag angen a nodwyd yn benodol, er enghraifft unigolion â chyflyrau iechyd cronig, neu gleifion mewn gwasanaeth arbenigol, fel ‘unedau llosgiadau’. Gellir nodi’r angen am atgyfeiriadau wedi’u targedu drwy dystiolaeth leol, er enghraifft dadansoddiad o anghenion y boblogaeth neu gan weithwyr iechyd proffesiynol sy’n defnyddio dull haenu risgiau ar gyfer eu grŵp cleifion. Gellir datblygu dull gweithredu rhagweithiol hefyd mewn lleoliadau penodol, er enghraifft ymhlith poblogaeth o fyfyrwyr prifysgol pan fyddai cymorth yn y gymuned yn gwella eu llesiant ac yn atal problemau mwy difrifol rhag datblygu.
Termau Amgen: Cyflwyniad, cyswllt
Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, cynllunio camau gweithredu, gwasanaethau statudol, hwylusydd iechyd, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, llywiwr gofal, mapio asedau, modelau presgripsiynu cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol digidol, sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol
Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff derm defnydd
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.