Atgyfeirio Creadigol

Disgrifiad: Mae atgyfeirio creadigol yn derm ambarél a ddefnyddir i ddisgrifio atgyfeirio unigolion at asedau cymunedol i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau creadigol. Ymysg yr enghreifftiau o atgyfeirio creadigol mae canu / creu cerddoriaeth, paenito, dawns, drama, crefftau, ffotograffiaeth a ffilm, theatr ac ysgrifennu creadigol. Rhoddir rhai enghreifftiau o’r termau a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer atgyfeirio creadigol isod.

Mae atgyfeirio at y celfyddydauCVSO (y cyfeirir ato’n aml fel ymyriadau sy’n seiliedig ar y celfyddydauGC, ymyriadau celfyddydau ar gyfer iechydGC, celf ar bresgripsiwnGI), yn disgrifio’r broses o atgyfeirio unigolion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau celfyddydol. Mae atgyfeirio at amgueddfeydd yn disgrifio’r broses o atgyfeirio unigolion i ymgysylltu’n greadigol gydag amgueddfeydd, sy’n aml yn ymgorffori elfen o weithgarwch sy’n seiliedig ar gelf. Mae atgyfeirio at ddawns yn disgrifio’r broses o atgyfeirio unigolion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau dawns a symud. Yn aml, caiff gweithgareddau atgyfeirio at ddawns eu hawgrymu ar gyfer oedolion â chyflyrau cronig, symudedd cyfyngedig, problemau niwrolegol neu ar gyfer oedolion hŷn sydd mewn perygl o gwympo.

Mae’r llenyddiaeth, sydd wedi’i seilio’n helaeth yn y maes gofal iechyd, yn aml yn ffafrio defnyddio’r term ‘…ar bresgripsiwn’ ar gyfer disgrifio’r asedau creadigol amrywiol sydd wedi’u cynnwys o fewn yr ambarél atgyfeiriad creadigol. Fodd bynnag, dangosodd yr ymgynghoriad nad yw’r term ‘ar bresgripsiwn’ yn cyd-fynd yn hwylus â’r model trawstoriadol o bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Felly, wrth gynhyrchu’r rhestr termau, ystyriwyd y dylai’r termau a ddefnyddir ddefnyddio ‘atgyfeirio (at)’ i adlewyrchu’r adborth o’r ymgynghoriad a natur y cynnig presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru.

Termau Amgen: Celf ar bresgripsiwnGI, y celfyddydau fel gofal iechyd, dulliau sy’n seiliedig ar y celfyddydau, ymyriadau sy’n seiliedig ar y celfyddydauGC, ymyriadau celfyddydau ar gyfer iechydGC, atgyfeirio at gelf, celfyddydau creadigol mewn presgripsiynu cymdeithasol, dawns ar bresgripsiwnGI, celfyddydau iachau, cynllun presgripsiynu cymdeithasol yn seiliedig ar amgueddfeydd, amgueddfeydd ar bresgripsiwnGI, rhaglenni celfyddydau presgripsiwn cymdeithasol

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio, atgyfeirio at addysg, atgyfeirio at gymorth lles, atgyfeirio at lyfrau, atgyfeirio at ymarfer corff, atgyfeirio glas, atgyfeirio gwyrdd, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol, ymyriadau’n seiliedig ar natur

filed under: