Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol

Disgrifiad: Defnyddir y term Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol (CVSO) yn aml i olygu sefydliadau’r trydydd sector. Mae’n disgrifio ystod o sefydliadau gwirfoddol a chymunedol (elusennau cofrestredig a sefydliadau eraill megis cymdeithasau, grwpiau hunangymorth a grwpiau cymunedol), mentrau cymdeithasol, sefydliadau cydfuddiannol a chydweithredol, nad ydynt yn sefydliadau’r sector cyhoeddus na’r sector preifat a gallai fod ganddynt gymysgedd o staff cyflogedig a gwirfoddol. Er y gallai’r sefydliadau unigol alw eu hunain yn sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol neu’n fentrau cymdeithasol, mae’r diffyg gwahaniaeth clir rhwng y categorïau hyn yn darparu dadl gadarn dros eu hystyried gyda’i gilydd fel Trydydd Sector.

Diffinnir sefydliad y trydydd sector fel: Corff annibynnol, anllywodraethol wedi’i ‘lywio gan werthoedd’ (nad ydynt yn cynnwys awdurdodau lleol a/neu gyrff cyhoeddus eraill) y mae eu gweithgareddau: (a) yn cael eu cyflawni nid er elw, a (b) o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i Gymru gyfan neu unrhyw ran o’r wlad (p’un a ydynt yn fuddiol i unrhyw ardal arall ai peidio).

Mae gan bob sir yng Nghymru Gyngor Gwirfoddol Sirol a’i brif rôl yw darparu cyngor a gwybodaeth i grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol ar wirfoddoli, ffynonellau cyllid ac ystod o faterion eraill.

Termau Amgen: Sefydliadau angori cymunedol, sefydliadau’r trydydd sector, sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol, gwasanaethau’r sector gwirfoddol cymunedol, sefydliadau gwasanaeth cymunedol gwirfoddol, mentrau gwasanaeth gwirfoddol, sefydliadau gwasanaeth gwirfoddo

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, atgyfeirio, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, gwasanaethau statudol, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, mapio asedau, system gyfeillio

filed under: