Atgyfeirio Gwyrdd

Disgrifiad: Mae atgyfeirio gwyrdd yn derm ambarél a ddefnyddir i ddisgrifio’r broses o atgyfeirio unigolion at grwpiau, ymyriadau neu wasanaethau sy’n cefnogi pobl i gymryd rhan mewn ymyriadau’n seiliedig ar natur mewn amgylcheddau ‘gwyrdd’ naturiol neu led-naturiol, er mwyn gwella eu llesiant. Defnyddir y term campfa werdd i ddisgrifio amgylcheddau fel fforestydd, glaswelltir, gerddi a pharciau lle y gallai unigolyn gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a/neu ymarfer corff. Gall enghreifftiau o weithgareddau atgyfeirio gwyrdd gynnwys cerdded neu redeg mewn parciau, neu wirfoddoli i glirio a chynnal a chadw coetir.

Mae ecotherapi yn rhan o’r ambarél atgyfeirio gwyrdd. Mae’n fath ffurfiol o driniaeth therapiwtig sy’n cynnwys gwneud gweithgareddau awyr agored ym myd natur gyda’r nod o ategu triniaethau presennol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl ysgafn i ganolig. Mae ffermio gofal, a elwir hefyd yn ffermio cymdeithasol yn rhan o’r termau ambarél ecotherapi a phresgripsiynu gwyrdd. Mae’n fath penodol o ymyrraeth gofal gwyrdd sydd wedi’i ddiffinio fel y defnydd o ffermio masnachol a thirweddau amgylcheddol i hyrwyddo iechyd meddyliol a chorfforol drwy weithgareddau ffermio arferol. Yn ei hanfod mae ffermio gofal yn waith gwirfoddol mewn amgylchedd amaethyddol neu arddwriaethol ar gyfer budd seicolegol a/neu ffisiolegol.

Termau Amgen: Ffermio gofal, presgripsiwn gwyrdd creadigol, ecotherapi, gofal gwyrddGC, gwasanaethau gofal gwyrdd, partneriaethau iechyd gwyrdd, llwybrau atgyfeirio iechyd gwyrdd, presgripsiynu gwyrddGI, ffermio cymdeithasol

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio, atgyfeirio at addysg, atgyfeirio at gymorth lles, atgyfeirio at lyfrau, atgyfeirio at ymarfer corff, atgyfeirio creadigol, atgyfeirio glas, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol, ymyriadau’n seiliedig ar natur

filed under: