Ymarferydd Presgripsiynu Cymdeithasol

Disgrifiad: Mae ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn derm ambarél am rywun sy’n cynorthwyo unigolion i nodi eu hanghenion anfeddygol drwy sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, ac sy’n eu helpu i gydgynhyrchu cynllun gweithredu a chael mynediad at asedau cymunedol, megis grwpiau, ymyriadau neu wasanaethau. Os bydd yn nodi angen meddygol posibl, efallai y bydd yn atgyfeirio’r unigolyn at feddyg teulu neu fferyllydd. Bydd ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn gweithio gydag unigolion i ganfod gweithgareddau sydd wedi’u teilwra i’w dewisiadau a’u hanghenion, i archwilio rhwystrau a heriau i fynychu, ac i annog cyfranogiad parhaus. Er bod termau a ffefrir am rôl ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn cael eu defnyddio mewn sectorau, mae’n bosibl y cyfeirir atynt hefyd drwy ddefnyddio gwahanol dermau a all fod yn benodol i’r sefydliad y maent yn gweithio ynddo. Gall ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol gael eu cyflogi gan ystod o wahanol sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd neu sefydliadau’r sector cymunedol a gwirfoddol.

Termau Amgen: Cysylltydd cymunedolCVSO, cydlynydd cymunedolGC, hyrwyddwr iechyd cymunedol, swyddog cyswllt cymunedol, ymarferydd cysylltiadau cymunedol, llywiwr cymunedolCVSO, hwylusydd, cynghorydd iechyd, brocer iechyd, cysylltwyr iechyd, cydlynydd cyswllt, gweithiwr cyswlltGI, cydlynydd ardal leolGC, cydlynydd asedau lleolGC, gweithiwr cyswllt anfeddygol, asiant atgyfeirio, gweithiwr atgyfeirio, atgyfeiriwr, atgyfeiriwr cymdeithasol, cydlynydd atgyfeirio cymdeithasol, swyddog atgyfeirio cymdeithasol, cynghorydd llesiant, cydlynydd cymunedol llesiant, cydlynydd llesiant, cynghorydd cysylltiadau llesiant, gweithiwr llesiant

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, atgyfeirio, cydgynhyrchu, cyfannol, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, cynllunio camau gweithredu, dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, dull sy’n seiliedig ar asedau, hwylusydd iechyd, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, mapio asedau, modelau presgripsiynu cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol, sgwrs am yr hyn sy’n bwysig

filed under: