Dull sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Disgrifiad: Defnyddir dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ym maes presgripsiynu cymdeithasol i helpu unigolion i nodi a chyflawni eu nodau personol, yn ogystal â mynd i’r afael â’r materion a’r problemau sylfaenol. Mae dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ceisio sicrhau bod yr unigolyn yn gwneud cyfraniad canolog at benderfyniadau sy’n ymwneud â’i fywyd hwy. Mae’n ystyried y bobl sy’n defnyddio gwasanaeth fel partner cyfartal yn y gwaith o gynllunio, datblygu a monitro, ac mae’n golygu gwrando, meddwl gyda’ch gilydd, rhannu syniadau a gofyn am adborth er mwyn sicrhau y gall ymyriadau a chymorth ddiwallu’r anghenion sydd fwyaf pwysig i’r unigolyn.

Termau Amgen: Dan arweiniad cleient, dan arweiniad unigolyn, ymyrraeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, model gofal wedi’i bersonoli

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, cydgynhyrchu, cynllun dan reolaeth practis, dull sy’n seiliedig ar asedau, llesiant, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, modelau presgripsiynu cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol, sgwrs am yr hyn sy’n bwysig, system gyfeillio

filed under: