Llywiwr Gofal

Disgrifiad: Fel arfer, derbynnydd neu aelod os taff gweinyddol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol yw llywiwr gofal. Mae rôl y llywiwr gofal yn ymwneud yn bennaf â chyfeirio gweithredol at ddarpariaeth iechyd amgen, er enghraifft nyrs neu ffisiotherapydd, a allai fod yn fwy addas na meddyg teulu i ymdrin â phryderon penodol unigolyn. Fodd bynnag, gall llyw-wyr gofal gyflawni math o rôl sy’n fwy tebyg i bresgripsiynu cymdeithasol hefyd, a allai gynnwys treulio amser gydag unigolion, cydgynhyrchu cynllun gweithredu unigol gyda’r unigolyn a nodi grwpiau, ymyriadau neu wasanaethau addas ar eu cyfer. Gall llyw-wyr gofal gefnogi’r ungiolyn hefyd i fynychu sesiynau cychwynol neu atgyfeirio’r unigolyn at ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol sy’n gallu eu cysylltu’n well ag asedau cymunedol.

Mae llywio gofal yn derm sy’n aml yn cael ei ddefnyddio yn lle presgripsiynu cymdeithasol i ddisgrifio cyfeirio gweithredol gan lywiwr gofal. Mae llywio gofal hefyd yn bodoli mewn sectorau eraill fel rôl sy’n cefnogi’r broses o lywio drwy wasanaethau gofal.

Termau Amgen:

Termau Cysylltiedig: Asedau cymunedol, Sefydliadau’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol, atgyfeirio, cydgynhyrchu, cyfeirio a chyfeirio gweithredol, cynllun dan reolaeth practis, cynllun dan reolaeth practis, egwyddorion canlyniad persgripsiynu cymdeithasol, gwasanaethau statudol, hwylusydd iechyd, presgripsiynu cymdeithasol, system gyfeillio, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol

filed under: