Disgrifiad: Mae hyrwyddwr presgripsiynu cymdeithasol yn llywio’r strategaeth presgripsiynu cymdeithasol ranbarthol ac yn cydlynu’r cyfathrebu ar hyd y llwybr presgripsiynu cymdeithasol. Os yw’n gweithio mewn practis cyffredinol mae’n ennyn cefnogaeth, yn annog atgyfeiriadau rheolaidd i’r gwasanaeth(au) presgripsiynu cymdeithasol ac yn codi proffil a gwerth canfyddedig presgripsiynu cymdeithasol ymhlith staff y practis cyffredinol.
Termau Amgen: Hyrwyddwr clinigol presgripsiynu cymdeithasol
Termau Cysylltiedig: Cynllun dan reolaeth practis, datblygu’r practis, gwasanaethau statudol, hwylusydd iechyd, llwybr presgripsiynu cymdeithasol, llywio gofal, ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol
Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff derm defnydd
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.