Ymarferydd Presgripsiynu Cymdeithasol

Mae Ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn helpu pobl gyda phresgripsiynu cymdeithasol fel rhan o’u swydd. Fe fydd ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn siarad â chi am y pethau rydych angen cymorth gyda nhw. Dydyn nhw ddim yn delio â materion meddygol.

Mae’r ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yno i weithio gyda chi, dim i ddweud wrthych chi beth sydd rhaid i chi ei wneud. Maen nhw yn eich cysylltu â grwpiau a gwasanaethau sy’n gallu helpu i wella eich iechyd a’ch llesiant. Efallai y byddan nhw’n mynd gyda chi pan fyddwch chi’n dechrau gweithgaredd.

Mae hyn weithiau yn cael ei alw yn: cysylltydd cymunedol, gweithiwr cyswllt, cydlynydd cymunedol, cynghorydd llesiant

Termau Cysylltiedig: Asedau Cymunedol, Atgyfeirio, Caffis Cymunedol, Cydgynhyrchu, Cyfannol, Cyfeirio a Chyfeirio Gweithredol, Cynllunio Camau Gweithredu, Dull sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, Llesiant, Llwybr Presgripsiynu Cymdeithasol, Presgripsiynnu Cymdeithasol, Sgwrs am Yr Hyn sy’n Bwysig

filed under: