Cyfeirio ydy pan fydd ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn dweud wrthych chi am wasanaeth, fel eich bod yn gallu edrych arno eich hun.
Cyfeirio Gweithredol ydy pan fydd eich ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol yn eich adnabod chi a beth rydych chi’n poeni amdano. Maen nhw hefyd yn gwybod pa grwpiau neu wasanaethau sydd yn eich ardal chi. Maen nhw yn gallu eich atgyfeirio at y rhai gorau i chi. Mae cyfeirio gweithredol yn cael ei ddefnyddio yn fwy cyffredin mewn presgripsiynu cymdeithasol na dim ond cyfeirio.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio mewn gwahanol swyddi yn gwneud cyfeirio a chyfeirio gweithredol, nid ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol yn unig. Er enghraifft, derbynyddion mewn meddygfeydd.
Termau Cysylltiedig: Asedau Cymunedol, Atgyfeirio, Dull sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, Hybiau Cymorth Cymunedol, Llwybr Presgripsiynu Cymdeithasol, Presgripsiynnu Cymdeithasol, Ymarferydd Presgripsiynu Cymdeithasol
Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff derm defnydd
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.