Mae presgripsiynu cymdeithasol yn helpu pobl i gysylltu â grwpiau a gwasanaethau yn y gymuned. Mae’n ffordd i’w helpu i reoli eu hiechyd a’u llesiant.
Mae’n gallu helpu gyda llawer o bethau gwahanol mewn bywyd person. Er enghraifft:
- Lleihau unigrwydd.
- Gwella iechyd corfforol.
- Delio â dyled.
- Llawer o bethau eraill. Mae’n dibynnu ar bob person a beth maen nhw ei angen.
Mae hyn weithiau yn cael ei alw yn: atgyfeiriad cymunedol, cysylltiad cymunedol, atgyfeirio anfeddygol
Termau Cysylltiedig: Asedau Cymunedol, Atgyfeirio, Cydgynhyrchu, Cyfannol, Cyfeirio a Chyfeirio Gweithredol, Cynllunio Camau Gweithredu, Dull sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, Hybiau Cymorth Cymunedol, Llesiant, Llwybr Presgripsiynu Cymdeithasol, Sgwrs am Yr Hyn sy’n Bwysig, Ymarferydd Presgripsiynu Cymdeithasol
Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff derm defnydd
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.